Enghreifftiau o'n Systemau Gwresogi yng ngogledd Cymru
Dyma i chi enghreifftiau o'r systemau gwresogi mae Fflam Eryri wedi eu gosod yng ngogledd Cymru.

Paneli Solar i Gynhesu Dŵr
Mae’r paneli solar a welwch chi ar y to yn cynhesu rhwng 50% a 70% o’r holl ddŵr poeth y mae ei angen a hynny mewn modd cynaliadwy sy’n amharu dim ar yr amgylchedd.
Caiff y paneli eu defnyddio ochr yn ochr â boeler cyddwyso Worcester Bosch Greenstar Ri. Mae’r boeler yma wedi derbyn safon effeithlonrwydd 'A' ac yn cynhyrchu ychydig iawn, iawn o garbon deuocsid.

Gosod Ystafelloedd Ymolchi
Roedd y prosiect yma’n cynnwys cynllunio a gosod ystafell ymolchi ac ystafell gawod en-suite. Bu i ni wneud yr holl waith o’r dechrau i’r diwedd – y cynllunio, y plymio, y gwaith trydanol, y gwaith gosod a’r teilsio.
Mae gwaith trydanol a theilsio yn rhan o’n gwasanaeth wrth osod unedau a gwneud gwaith plymio mewn ystafelloedd ymolchi. Serch hynny, dydyn ni ddim yn ymgymryd ag unrhyw waith trydanol a theilsio fel arall.

Pwmp Gwres y Ddaear
Mae’r uned Worcester combi sydd wedi ei osod yn Hen Dŷ, fferm Dyffryn, Eglwysbach, yn darparu dŵr poeth a gwres heb fod angen unrhyw foeler, tanc na silindr ychwanegol. Gan nad ydi’r uned yn cymryd llawer o le a chan nad oes angen ffliw fel gyda boeler olew neu nwy, roedd modd i ni ei osod dan y grisiau newydd yng nghanol y tŷ. Mae’r system wresogi yn gweithio’n dda dan y llawr llechi sydd i lawr grisiau ac o dan y lloriau derw i fyny’r grisiau. Ffermdy oedd yr Hen Dŷ ar un adeg ond mae bellach yn dŷ gwyliau heb ei ail. I weld y tŷ a’n gwaith ewch i www.cottages4you.co.uk (rhif y bwthyn:26493).

Peipiau Casglu Gwres y Ddaear
Gyda’r holl law rydym ni’n ei gael yma yn Eryri mae cloddio’r ddaear i osod peipiau yn gallu bod yn waith heriol. Serch hynny, mae’r holl waith yn talu ar ei ganfed, a bydd cartref clyd a chynaliadwy yn aros amdanoch chi ar y diwedd.
Rydym ni’n gwneud yn siŵr fod y peipiau’n dod at ei gilydd yn daclus, naill ai y tu mewn i’r adeilad neu mewn twll caead (gwelwch y llun), fel ei bod hi’n haws mynd atyn nhw.

Pwmp Gwres y Ddaear – Peipiau yn y Cartref
Rydym ni’n defnyddio peipiau plastig lle bo angen, ond ar gyfer peipiau sydd yn y golwg mae rhai copr yn llawer gwell oherwydd eu bod yn cadw eu siâp (gwelwch y peipiau heb eu hinsiwleiddio yn y llun).
Mae modd gosod y pympiau gwres yn sownd i’r prif gyflenwad dŵr neu i gyflenwad dŵr ffynnon. Sylwch ar y ffilter cetris a’r pwmp dŵr mawr y bu i ni eu gosod.

Cwblhau Gwaith Cloddio ar gyfer Pwmp Gwres y Ddaear
Yn Llys Bach a Llys Mawr, Y Ffôr, Pwllheli bu i ni osod system wresogi danddaearol. Fel y gwelwch chi, wedi ei wneud yn iawn, dydi’r gwaith cloddio ddim yn edrych yn flêr o gwbl.
Cafodd yr hen adeiladau eu hadnewyddu a’u troi yn ddau dŷ haf hardd gyda system wresogi dan y llawr i lawr ac i fyny’r grisiau. Mae’r tai wedi eu gwresogi gan ddau bwmp gwres ar wahân sydd o’r golwg yn y twll dan grisiau. I weld lluniau o’r bythynnod ewch i wefan Menai Holidays.

Silindr Solar
Dyma enghraifft o silindr (cyn ei insiwleiddio) ym mhlasty godidog Plas yn Iâl, Llandegla, ger Llangollen.

Systemau Masnachol Bychain - Parc Carafanau
Gosodwyd system wresogi dan y llawr a system gynhesu dŵr yng nghaban cawod newydd sbon Parc Carafanau Plas yn Betws, Betws yn Rhos. Gwelwch y lluniau ar Facebook.

Ystafell Ymolchi
Ystafell Ymolchi newydd sbon yn Rhos Isaf, Caernarfon. Ni oedd yn trefnu’r holl waith gan gynnwys y plastro, y plymio, y gwresogi, y teilsio a’r gwaith o osod yr unedau.

System Wresogi dan y llawr ym Mhenmachno
Mae’r system wresogi dan y llawr ym Mlaen y Buarth, Penmachno, yn defnyddio gwres y ddaear. Mae’r holl beipiau wedi eu cuddio. I weld ein gwaith plymio a gwresogi yn y bwthyn ecogyfeillgar ewch i wefan under the thatch.
Manylion Cyswllt
I gael mwy o wybodaeth llenwch y ffurflen gysylltu neu cysylltwch â'r:
Berllan Bach, Eglwysbach, Conwy, LL28 5UF, UK
www.fflameryri.co.uk
Hawlfraint Cynnwys y Wefan - Fflam Eryri, gogledd Cymru, Ynys Prydain.
