Gwasanaeth wresogi gynhwysfawr i ogledd Cymru

Mae Fflam Eryri'n gwmni o Ddyffryn Conwy sy'n gosod ac yn trin systemau gwresogi mewn cartrefi a busnesau bychain (e.e. gwestai). Mae Fflam Eryri yn gallu gosod, trin a thrwsio:
- systemau boeler oel
- systemau boeler nwy (nwy naturiol ac LPG)
- systemau gwres y ddaear
- systemau dwr poeth ynni haul
- systemau gwresogi dan y llawr
- gwaith plymio ac ystafelloedd ymolchi
Mae cwmni Fflam Eryri wedi ei sefydlu ers 1991. Rydym ni'n gweithio'n bennaf yng ngogledd Eryri a'r siroedd cyfagos ac wedi ennill enw da fel cwmni dibynadwy. Er mwyn sicrhau bod eich system wresogi'n rhoi blynyddoedd o wasanaeth ac yn achosi'r lleiaf posib o gost cynnal a chadw i chi mae pob system y byddwn ni'n ei gosod yn dod gyda gwarant estynedig a gwasanaeth trin a thrwsio di-lol a chynhwysfawr.



Ein Gwasanaethau
Er mwyn cadw biliau'n fychain ac ar yr un pryd gwarchod yr amgylchedd rydym ni'n cynnig y systemau mwyaf diweddar a darbodus. Mae gennym ni flynyddoedd o brofiad o osod pob math o systemau gwresogi, rhai olew, nwy, nwy LPG, glo a choed, gwresogi dan y llawr a gwres y ddaear. I weld esiamplau o rai o'r systemau rydym ni wedi eu gosod yng ngogledd Cymru, cliciwch yma.

Systemau Boeler Oel
Systemau effeithlonedd uchel efo'r boeleri cyddwyso diweddaraf i ailgylchu gwres fyddai, fel arall, yn cael ei golli. Mae modd cael boeler cyfun neu foeler cyffredin, un mewnol neu un allanol, wedi'i osod ar y wal neu ar lawr. Gwarant 5 mlynedd ar bob boeler.

Systemau Boeler Nwy
Mae'r boeleri nwy naturiol a nwy LPG potel rydym ni'n eu gosod yn fwy na 90% effeithlon. Mae cael gwared ar hen foeler a gosod un newydd yn ei le yn lleihau costau gwresogi'n sylweddol. Gwarant 5 mlynedd ar bob boeler.

Systemau Gwres y Ddaear
Systemau gwres canolog neu dan y llawr sy'n defnyddio'r gwres naturiol y ddaear, a hynny'n golygu biliau ynni llai i chi a dyfodol mwy cynaliadwy i ni gyd. Gwarant 5 mlynedd ar bob pwmp gwres.

Systemau Dŵr Poeth Ynni'r Haul
Fe all system ynni'r haul gynhesu digon o ddwr poeth i fodloni hyd at 70% o anghenion eich cartref. Mae'r systemau'n eco-gyfeillgar, yn hawdd eu gosod a thrwy eu gosod i weithio ochr yn ochr a system nwy, olew neu wres y ddaear yn gallu lleihau eich biliau tanwydd yn sylweddol. Gwarant 5 mlynedd ar bob system.

Systemau Gwresogi dan y Llawr
Rydym ni'n cynllunio, cyflenwi ac yn gosod systemau gwresogi dan y llawr. Maen nhw'n syml ac yn ddibynadwy, mae ganddyn nhw system reoli sy'n eu gwneud nhw'n effeithlon ac yn hawdd eu defnyddio ac maen nhw'n hynod o boblogaidd. Mae system wresogi dan y llawr yn caniatau i chi wneud y gorau o'ch ystafell gan nad ydi o'n cymryd dim lle ar y llawr nac ar y waliau.

Gwaith Plymio ac Ystafelloedd Molchi
Byddwn ni'n ymgymryd â gwaith plymio cyffredinol yn cynnwys cyflenwi a gosod ystafelloedd molchi.
Fe Allwn Ni Eich helpu Chi i Wella Effeithlonrwydd Eich System Wresogi
Tystlythyrau
Os ydych chi'n byw yn Sir Gonwy, Sir Ddinbych, De Ynys Môn neu Ogledd Gwynedd cysylltwch â ni am amcan bris neu gyngor a hynny heb unrhyw bwysau i brynu. Mae yna warant gynhwysfawr ar ein holl waith ac mae grantiau ar gael i helpu talu am rai o'n systemau.
Manylion Cyswllt
I gael mwy o wybodaeth llenwch y ffurflen gysylltu neu cysylltwch â'r:
Berllan Bach, Eglwysbach, Conwy, LL28 5UF, UK
www.fflameryri.co.uk
Hawlfraint Cynnwys y Wefan - Fflam Eryri, gogledd Cymru, Ynys Prydain.
Y wefan wedi'i dylunio yng ngogledd Cymru gan PJ WebWorks. Diolchiadau eraill
